2013 Rhif 3045 (Cy. 304)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (Diddymu) a Choleg Ceredigion (Sefydliad Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r gorfforaeth addysg bellach a sefydlwyd i redeg Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”) a hynny’n effeithiol o 31 Rhagfyr 2013. Mae hefyd yn dynodi Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”), sef coleg newydd a fydd yn cael ei redeg gan gwmni cofrestredig cyfyngedig, drwy warant at ddibenion adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“y Ddeddf”).

Mae’n darparu ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau’r gorfforaeth i Goleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”) ac mae’n diogelu hawliau cyflogaeth cyflogeion y gorfforaeth a ddiddymwyd drwy gymhwyso, gydag addasiadau, adran 26(2) i (4) o’r Ddeddf.

Effaith cymhwyso adran 26(2) i (4) o’r Ddeddf yw cadw contractau cyflogaeth cyflogeion y gorfforaeth a ddiddymwyd fel petai’r contractau cyflogaeth wedi eu gwneud yn wreiddiol rhwng y cyflogeion a Choleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”). Daw cyflogeion y gorfforaeth a ddiddymwyd yn gyflogeion Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”) o 31 Rhagfyr 2013.

Ystyr dynodi Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion) yw y dylid trin y sefydliad fel sefydliad o fewn y sector addysg bellach at ddibenion y Deddfau Addysg (o fewn yr ystyr a roddir gan adrannau 91(1) a 91(3) o’r Ddeddf ac adran 578 o Ddeddf Addysg 1996).


Ni luniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio ar gostau busnes.

 


2013 Rhif 3045 (Cy. 304)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (Diddymu) a Choleg Ceredigion (Sefydliad Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2013

Gwnaed                                 3 Rhagfyr 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       5 Rhagfyr 2013

Yn dod i rym                        31 Rhagfyr 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 27C o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992([1]) a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 28 o’r Ddeddf honno ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]).

Yn unol ag adran 27C(2) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, mae Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”)([3]) wedi cydsynio i’r trosglwyddiad o eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion Further Education Corporation”).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion Further Education Corporation”) yn unol ag adran 27C(6) o’r Ddeddf honno.

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (Diddymu) a Choleg Ceredigion (Sefydliad Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2013 a daw i rym ar 31 Rhagfyr 2013.

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.

Diddymu a throsglwyddo

3. Ar 31 Rhagfyr 2013 mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion Further Education Corporation”) wedi ei diddymu a throsglwyddir ei holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yn unol ag adran 27C(2) o’r Ddeddf i Goleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”), sef corff corfforaethol sydd wedi ei sefydlu at ddibenion sy’n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol, ac sy’n elusen sydd wedi ei sefydlu at ddibenion elusennol sy’n ddibenion addysgol yn unig.

Trosglwyddo Staff

4. Mae adran 26(2), (3) a (4) o’r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion Further Education Corporation”) yn union cyn 31 Rhagfyr 2013 fel petai’r cyfeiriadau yn yr adran honno—

(a)     at berson y mae’r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson sy’n gyflogedig fel hynny;

(b)     at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 31 Rhagfyr 2013;

(c)     at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion Further Education Corporation”); a

(d)     at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Goleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”).

Dynodi

5. Mae Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”), sef sefydliad addysgol o’r math a ddisgrifir yn is-adrannau (1) a (2) o adran 28 o’r Ddeddf, wedi ei ddynodi fel sefydliad at ddibenion yr adran honno.

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

3 Rhagfyr 2013



([1])           1992 p.13; rhoddwyd adran 27C yn lle adran 27 fel y’i deddfwyd yn wreiddiol, gan Ddeddf Addysg 2011 (p.21), adran 49, Atodlen 12, paragraffau 1 a 7.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32.) a pharagraff 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 iddi.

([3])           Ymgorfforwyd ar 9 Hydref 2013 yn gwmni cyfyngedig drwy warant a chofrestrwyd â rhif cwmni 08725643.